|
Fa'ma 'di'r lle...
| MEWNGOFNODI DIWETHAF: |
08/25/2008 12:27:49 |
|
| ANRHEGION |
|
Dim anrhegion eto.
|
|
Coldplay,
Embrace,
U2,
Goo Goo Dolls,
Oasis,
The Killers,
Y Cyrff,
Idlewild,
Catatonia,
Stereophonics,
Kasabian,
Hard-Fi.
|
|
VANTA yw:
- Mei Emrys:
Prif Lais a Gitar Rhythm;
- Gerallt Hughes:
Drymiau;
- Emyr P. Davies:
Gitar Fas a Llais Cefndir;
- Dafydd Jones:
Gitar Flaen.
|
| FY NGHWISIAU |
|
Heb greu cwis eto
|
|
FY'N AROLYGON
|
CYFANSWM O 2 AROLWG.
Pa un o gryno ddisgiau Vanta ydi'r gorau?
DYDDIAD: 12/30/2007 14:37:21
GWELD YR AROLWG
Heblaw am "Tri Mis a Diwrnod", pa un o ganeuon Vanta ydych chi'n hoffi fwyaf?
DYDDIAD: 12/30/2007 13:52:13
GWELD YR AROLWG
| |
|
|
 |
Vanta yw un o fandiau mwyaf poblogaidd y sîn roc Gymraeg. Mae eu caneuon yn cyfuno melodiau Coldplay, Embrace a Snow Patrol gyda swn epig U2 a’r Goo Goo Dolls, ac mae'r band eisoes wedi rhyddhau tair cryno ddisg ar label RASP (Fflach).
Daeth Vanta i amlygrwydd am y tro cyntaf wedi iddynt ryddhau y gryno ddisg lwyddianus “Pedair Stori Fer e.p.” yn 2001, ond yn ystod 2005 y daeth y band i fod yn wirioneddol boblogaidd.
Wedi iddynt ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru y flwyddyn honno – gyda’r gân “Enfys Bell” – tyfodd trac newydd arall – “Tri Mis a Diwrnod” – i fod yn anhygoel o boblogaidd, ac mae’r gân honno’n parhau i fod yn un o’r traciau sy’n cael ei chwarae fwyaf ar sianeli radio fel BBC Radio Cymru a Champion 103 hyd heddiw. Mae hi i’w chlywed ar y c.d. “Caneuon o’r Gwaelod e.p.”, a gyrhaeddodd rif un yn Siart C2 yn gynnar yn 2006.
Cryfhawyd swn Vanta yn ddiweddar wrth i ddau aelod newydd – Emyr a Daf – ymuno â’r band yn llawn amser. Ar hyn o bryd, mae’r hogia’ wrthi’n gweithio ar ganeuon newydd (gyda’r gobaith y bydd c.d. newydd yn cael ei rhyddhau ar ddechrau 2008), ac mae nhw hefyd yn bwriadu gigio yn gyson yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd manylion pob gig sy'n cael ei drefnu i’w gweld yma, ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael Vanta i chwarae mewn gig i chi, mae croeso i chi gysylltu gyda ni drwy yrru neges i ni ar y wefan hon, neu drwy gysylltu gyda Rhys Mwyn (01286 685 215 / rhys@rhysmwyn.com) neu Alan Jones (07917770643).
|
|
Nos Sadwrn, 16/02/2008 - Gig y 'Steddfod Ryng-Golegol, Coleg y Drindod, Caerfyrddin.
Nos Iau, 28/02/2008 - Clwb Cymru @ Clwb Nos Amser, Undeb Myfyrwyr Bangor.
|
|
"Pedair Stori Fer e.p." (RASP, 2001)
"Dagrau Llawenydd e.p." (RASP, 2002)
"Caneuon o'r Gwaelod e.p." (RASP. 2006)
|
Tudalen:
1 |
|
|